Gwybodaeth i wirfoddolwyr

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’n tîm. Heb wirfoddolwyr yn cefnogi’n gwaith, ni allwn gynnig ein hamrediad cyfredol o wasanaethau i bobl â cholled golwg. Os hoffech chi ein cefnogi naill ai trwy ddarllen testunau neu wirio ffeiliau sain, gartref, ewch at ein gwefan os gwelwch yn dda a gwnewch gais ar y dudalen gwirfoddoli.