Cynghorion ac awgrymiadau fformat sain
TBydd yr awgrymiadau canlynol yn eich helpu i gynhyrchu'r allbwn sain o'r ansawdd gorau. Cymerwch amser i ddarllen y pwyntiau a ganlyn gan y bydd talu sylw iddynt yn eich helpu chi a'r RNIB i gynnig gwasanaeth gwell i'r cwsmer yn y pen draw.
- Recordiwch mewn ystafell weddol fach gyda charpedi a llenni, yn hytrach na chegin neu ystafell ymolchi, er enghraifft
- Gadewch ambell eiliad o ddistawrwydd/awyrgylch ystafell ar ddechrau a diwedd pob ffeil
- Treuliwch 5 munud yn paratoi cyn dechrau recordio. Gwiriwch ynganiad anodd ac ysgrifenwch frawddegau sy’n rhedeg ymlaen i’r dudalen nesaf fel nad oes yn rhaid i chi droi tudalen tra’n recordio
- Ceisiwch wneud synnwyr o’r hyn rydych yn ei ddarllen. Os nad ydych chi’n deall go brin y bydd y gwrandawr yn deall ychwaith
- Darllenwch yn glir, ddim yn rhy gyflym, a cheisiwch ei wneud yn ddiddorol
- Dim acenion os gwelwch yn dda oni wneir cais penodol
- Stopiwch eich recordiad cyn troi tudalen ac am unrhyw sŵn cefndir amgylchynol arall
- Gwiriwch unrhyw olygiadau yr ydych yn eu gwneud trwy chwarae’r recordiad yn ôl
- Cofiwch gymryd egwyl yn rheolaidd rhag bod eich ceg yn sychu