Ynglŷn â’r gwasanaeth

Boed y lle hudolus y mae’ch hoff lyfr yn arfer mynd â chi yno, neu atgofion arbennig sy’n cael eu cloi mewn llythyrau neu ddyddlyfrau nad ydych chi’n gallu eu darllen bellach, rydyn ni’n deall pwysigrwydd a phŵer y gair ysgrifenedig a pha mor anodd mae’n gallu bod i chi ddarllen yr hyn rydych chi eisiau, pan fyddwch eisiau.

Mae bywyd bob dydd yn llawn print a gall yr anallu i ddarllen hyn gyflwyno rhwystrau sylweddol i arwain bywyd annibynnol. Gall ein tîm helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn. Drwy gymryd eich print a’i drosi i fformat gallwch ei ddarllen eich hun, gallwn eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad gyda’ch cymuned leol, parhau i fynychu grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau, mwynhau eich hoff hobi, neu ehangu eich gorwelion drwy addysg neu deithio.

Pa fformatiau ydyn ni’n cynnig?

  • Sain mewn llais dynol neu lais synthetig a gynhyrchir yn ddigidol, ar CD, CD Daisy, neu fel ffeil mp3
  • Braille
  • Print bras a phrint mawr
  • Testun electronig
  • Diagramau a delweddau cyffyrddol
  • Cerddoriaeth ddalen a sgorau cerddorol hygyrch – Erwydd nodiant a addaswyd

Faint mae’n costio?

Cynigir y gwasanaeth am ddim nawr ond cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda!

Eisiau gwybod rhagor?

Mae’r tîm Trawsgrifio Personol yn Ivybridge yn cynnig cyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o ddarparu’r hyn rydych chi ei angen. Ffoniwch nhw ar 01752 690092 neu ebostiwch [email protected] a byddant yn eich helpu drwy’r broses gyfan.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, neu angen trawsgrifio yn Gymraeg, gall ein tîm Trawsgrifio Caerdydd helpu. Cysylltwch â nhw drwy ebostio [email protected] neu drwy ffonio 029 2082 8540.

Gwyliwch y fideo canlynol i ddysgu mwy am y gwasanaeth Trawsgrifio Personol